Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Nodi'r modd y darparodd y cyngor gymorth dyngarol yn ystod cam ymateb i
argyfwng COVID-19, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a'r DU.
2.
Nodi'r camau sy'n cael eu cymryd i drosglwyddo pobl sy'n dal i dderbyn
gwasanaeth i drefniadau mwy addas a chynaliadwy o ran casglu bwyd a
meddyginiaeth erbyn diwedd Gorffennaf a chyn y bydd y cynllun cysgodi yn cael
ei rewi ar 16 Awst 2020.
3.
Nodi bod y gwersi a ddysgwyd o'r gwaith i'r Panel Aelodau a sefydlwyd gan y
cyngor i lywio'r broses o gynllunio adferiad, a oedd yn ceisio barn am y ffordd
y gellir defnyddio'r gwersi hyn i lywio'r broses sefydlogi a chynllunio
adferiad.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
1.
Nodi a chymeradwyo'n ffurfiol y gwaith cynllunio pontio sy'n cael ei wneud
i adael preswylwyr sydd angen cymorth dyngarol gan y cyngor yn unol â'r
amserlenni a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru – h.y. y caiff y gwasanaeth
dosbarthu bwyd cenedlaethol ei rewi ar 16 Awst 2020, a bydd gwasanaethau
dosbarthu fferylliaeth gymunedol yn cael eu hadolygu ddiwedd mis Medi 2020.
2.
Sicrhau bod ystyriaeth ffurfiol yn cael ei rhoi i'r gwersi a ddysgwyd o'r
ymateb brys a bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu defnyddio i lywio'r broses
sefydlogi, cynllunio adferiad tymor hwy a gwaith ehangach y cyngor.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: