Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Nodi'r gwaith a wnaed gan y Grŵp Llywodraethu Corfforaethol i
ddatblygu'r adendwm drafft.
2.
Cytuno ar yr adendwm drafft a atodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd, sy'n cynnwys y tabl gwaith gwella diwygiedig ar gyfer 2020/2021.
3.
Y dylid cymeradwyo disodli'r tabl gwaith gwella ar gyfer 2020/2021 a
gynhwysir yn Natganiad Llywodraethu Blynyddol 2019/2020 (a gymeradwywyd gan y
Cabinet ar 21 Mai 2020) gyda'r camau gwella a nodwyd yn yr adendwm yma.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
1.
I sicrhau bod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn bodloni gofynion
Rheoliad 5(2) Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 mewn perthynas â'r
adolygiad blynyddol o effeithiolrwydd systemau rheoli mewnol y cyngor a pharatoi
a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
2.
I fodloni'r cais a wnaed gan y Cabinet ar 21 Mai 2020 i adolygu'r gwaith
gwella a amlinellwyd ar gyfer gweithredu yn ystod 2020/2021.
3.
I sicrhau bod y materion a nodwyd yn y papur briffio ar gyfer Fforwm
Llywodraethu Gwell CIPFA yn cael eu hystyried.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: