Agenda item

Cais Rhif. P2020/0486 – Canol Tref Castell-nedd

Canolfan Hamdden, yn cynnwys pwll nofio, ystafell iechyd a champfa ynghyd â chaffi ategol, 6 uned fasnachol (defnydd A1, D1) yn ogystal â llyfrgell gyhoeddus ar y llawr cyntaf. Ynghyd ag iard wasanaeth gysylltiedig, gwelliannau i fannau cyhoeddus a thirlunio ar dir yn Stryd y Dŵr, Castell-nedd.

 

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (canolfan hamdden, yn cynnwys pwll nofio, ystafell iechyd a champfa gyda chaffi ategol, 6 uned fasnachol (defnydd A1 a D1) a llyfrgell gyhoeddus ar y llawr cyntaf. Ynghyd â'r iard wasanaethu, y tir cyhoeddus a'r gwelliannau tirlunio cysylltiedig ar dir yn Stryd y Dŵr, Castell-nedd) fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo Cais Rhif P2020/0486, yn unol ag argymhellion swyddogion, gan ystyried y sylwadau ar y daflen ddiwygiadau, ac yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

 

Dogfennau ategol: