Gwaith
cloddio adferol ategol i greu 2 lwyfan tirffurf dolennog (rhan ohono mewn
cloddiad a rhan ohono ar lethr) gydag isadeiledd draenio cysylltiedig ac
ardaloedd wedi’u tirlunio a chreu cynefinoedd i greu ardal o dir hyblyg ac addasadwy
y gellid ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau gan gynnwys
amaethyddiaeth, cadwraeth natur, hamdden, twristiaeth a defnydd diwydiannol,
ymchwil a datblygu/busnes (o bosib yn cynnwys cyfleuster profi rheilffordd,
ymchwil a datblygu a storio arfaethedig). (Cais trawsffiniol - gweler cyfeirnod
Cais CB Powys 20/0738/FUL) ar Dir Safle Glo Brig Nant Helen, Powys ac o'i
gwmpas a Chanolfan Ddosbarthu Onllwyn, Castell-nedd Port Talbot.
Cofnodion:
Rhoddodd swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor
Cynllunio ar y cais hwn (Gwaith cloddio adferol ategol i greu 2 lwyfan tirffurf
dolennog (rhan ohono mewn cloddiad a rhan ohono ar lethr) gydag isadeiledd
draenio cysylltiedig ac ardaloedd wedi’u tirlunio a chreu cynefinoedd i greu
ardal o dir hyblyg ac addasadwy y gellid ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o
ddefnyddiau gan gynnwys amaethyddiaeth, cadwraeth natur, hamdden, twristiaeth a
defnydd diwydiannol, ymchwil a datblygu/busnes (o bosib yn cynnwys cyfleuster
profi rheilffordd, ymchwil a datblygu a storio arfaethedig). (Cais
traws-ffiniol - gweler cyfeirnod cais Cyngor Sir Powys sef 20/0738/FUL) ar dir
ar safle glo brig Nant Helen, Powys, ac o'i gwmpas, a chanolfan ddosbarthu
Onllwyn, Castell-nedd Port Talbot) fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Yn unol â'r Protocol Siarad Cyhoeddus a
gymeradwywyd gan y cyngor, anerchodd yr asiant y Pwyllgor Cynllunio.
PENDERFYNWYD: |
Cymeradwyo Cais Rhif P2020/0362, yn unol ag
argymhellion swyddogion, gan ystyried y sylwadau ar y daflen ddiwygiadau, ac
yn amodol ar yr amodau (gan gynnwys amod Grampian) y manylir arnynt yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. |
Dogfennau ategol: