Agenda item

Diweddariad Llafar gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion

• Gofal Preswyl

• Rhyddhau o'r Ysbyty i'r Cartref / Cyflym

• Gofal cartref / Gofal Cartref

• Gwasanaethau Anabledd Dysgu / Iechyd Meddwl

• Gwasanaethau Dydd / Gwasanaethau Seibiant

• Digartrefedd

 

Cofnodion:

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau craffu gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai a'i dîm, am yr hyn a oedd wedi bod yn digwydd o fewn y gwasanaeth, o ddechrau'r flwyddyn hyd at y presennol. Roedd hyn yn cynnwys ffurfio ysbytai maes er mwyn gallu ymdopi â'r nifer uchel o farwolaethau a ragwelwyd gan wyddonwyr (nad oedd, diolch byth, wedi cyrraedd y ffigur rhagamcanol), yn ogystal â rôl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn y broses o wneud penderfyniadau.

 

Darparwyd crynodeb o'r pryderon ynghylch y gwasanaeth gofal preswyl, a nifer y marwolaethau. Roedd pryderon yn cynnwys dryswch ynghylch defnyddio cyfarpar amddiffyn personol (PPE), yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â'i argaeledd.

 

Trafodwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer gwelyau gwag mewn cartrefi gofal. Nododd yr aelodau fod £40 miliwn wedi'i ddarparu ledled Cymru gyda £22 miliwn ychwanegol o gyllid wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar.

 

Teimlai'r aelodau y byddai effeithiau cymunedol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pellach y pandemig yn cael eu teimlo’n nes ymlaen. Gallai cynnydd yn y feirws yn y dyfodol fod yn bosibilrwydd yn ystod misoedd y gaeaf. Byddai'r gwasanaeth yn parhau i addasu wrth symud ymlaen.

 

Trafodwyd a oedd y feirws wedi effeithio ar staff cartrefi gofal, a nodwyd bod prinder staff wedi effeithio ar rai cartrefi gofal yn fwy nag eraill. Cartrefi y bu angen iddynt gyflogi staff asiantaeth a nyrsio. Nodwyd nad oedd y gwasanaethau cymdeithasol wedi cynnal y cynllun Diogel ac Iach.

 

Trafodwyd 'ysbyty i gartref' a rhyddhau pobl o'r ysbyty'n gyflym. Oherwydd canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch lledaenu COVID-19, nodwyd bod asesiadau Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl wedi'u gohirio, gan na allai swyddogion fynd i eiddo cleientiaid ar hyn o bryd.

 

Esboniodd y swyddogion y ddarpariaeth gofal cartref a roddwyd yn ystod y pandemig. Nododd yr aelodau fod gofalwyr yn dal i ymweld â chleientiaid lle bo angen, er bod rhai teuluoedd bellach yn gofalu am eu perthnasau eu hunain, ac wedi rhyddhau'r gofalwyr o'r rôl.

 

Roedd nifer o gleientiaid wedi'u hatgyfeirio o'r cynllun Diogel ac Iach ar gyfer cymorth gofal cartref, fel casglu siopa a phresgripsiynau. Nid oedd bonws £500 y Llywodraeth a addawyd i'r rheini sy'n gweithio yn y maes gofal yn ystod argyfwng COVID-19 wedi'i dalu hyd yma.

 

Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r canlynol, o ran effaith argyfwng COVID-19:

 

·        Anableddau dysgu

·        Iechyd meddwl

·        Gwasanaethau Dydd

·        Gwasanaethau Seibiant

·        Trais yn y cartref a

·        Hyfforddiant cyffuriau ac alcohol

 

Nodwyd bod rhai gwasanaethau a gomisiynwyd (gofal seibiant) bellach wedi ailagor. Roedd nifer o staff gwasanaethau dydd nad oeddent yn gallu gweithio yn y lleoliad gofal dydd yn ystod y pandemig, wedi bod yn helpu i fynd â chleientiaid allan am ychydig oriau'r dydd, er mwyn rhoi seibiant i deuluoedd. Byddai adroddiad ar ddarparu gwasanaethau dydd yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor craffu cyn bo hir.

 

Nodwyd cynnydd sydyn yn nifer y bobl hŷn sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl sy’n cael eu hatgyfeirio.

 

Trafodwyd digartrefedd, a nododd yr aelodau fod yr holl bobl sy'n cysgu allan wedi'u tynnu oddi ar y strydoedd ar ddechrau cychwyniad y feirws, gan arwain at bron dwbl nifer y cleientiaid mewn darpariaeth frys, gan gynnwys gwestai, na chyn y pandemig – 115 yn erbyn 60 o achosion blaenorol.

 

Roedd gan swyddogion bryderon mawr ynghylch digartrefedd, a theimlent y gallai llacio'r cyfyngiadau symud arwain at chwalu teuluoedd, yn ogystal â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn troi pobl allan. Pwysleisiodd swyddogion y berthynas dda oedd ganddynt ar hyn o bryd â chymdeithasau tai.

 

Ar yr adeg hon yn y cyfarfod, gwnaeth y Cynghorydd S Reynolds ddatganiad o fuddiant, gan ei bod yn Aelod o Fwrdd Tai Tarian.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad preifat.