Agenda item

Mynediad Aelodau i Gyfarfodydd

Cofnodion:

Mynegwyd pryder bod rhai aelodau o’r cyngor yn cael anhawster wrth gael mynediad i gyfarfodydd o bell drwy Microsoft Teams ac y gallai hyn effeithio ar bresenoldeb aelodau yn unol â’r rheol chwe mis sy'n gynwysedig yng Nghyfansoddiad yr Awdurdod.  Byddai swyddogion yn ystyried hyn yn y dyfodol ac yn parhau i ddarparu cymorth i aelodau.