Cynnig i
newid yn rhannol ddefnydd o siop (Dosbarth Defnydd A1) a fflat llawr cyntaf
(Dosbarth Defnydd C3) i Dŷ Amlfeddiannaeth (HMO) i bum person (Dosbarth
Defnydd A1), ynghyd â newidiadau i ffenestriad y prif adeilad a'r tŷ allan
yn 50 Commercial Road, Tai-bach SA13 1LG.
Cofnodion:
(Dychwelodd
y Cynghorydd R.Davies i'r cyfarfod.)
Rhoddodd
swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio am y cais hwn (cynnig i newid
defnydd siop yn rhannol (defnydd dosbarth A1) a fflat llawr cyntaf (defnydd
dosbarth C3) i Dŷ Amlfeddiannaeth i bum person (HMO) (defnydd dosbarth
C4), ynghyd â newidiadau i ffenestriad y prif adeilad a'r tŷ allan yn 50
Commercial Road, Tai-bach, Port Talbot SA13 1LG) fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Roedd aelod
y ward lleol hefyd yno i roi ei datganiadau yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: |
Cymeradwyo
Cais Rhif P2020/0406, yn unol ag argymhellion swyddogion, yn amodol ar yr
amodau a fanylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, fel y diweddarwyd yn y
daflen ddiwygio a ddosbarthwyd. |
Dogfennau ategol: