Codi adeilad ystafell ddosbarth
deulawr a gwaith cysylltiedig ar dir yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera, Glan yr Afon,
Ystalyfera.
Cofnodion:
(Ar y pwynt
hwn yn y cyfarfod, ailddatganodd y Cynghorydd R.Davies ei budd yn yr eitem hon,
a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r bleidlais ar ôl hynny.)
Rhoddodd
swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ynghylch y cais hwn (adeiladu
adeilad deulawr ag ystafelloedd dosbarth a gwaith cysylltiedig ar dir Ysgol
Gyfun Ystalyfera, Glan Yr Afon, Ystalyfera) fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
PENDERFYNWYD: |
Cymeradwyo
Cais Rhif P2020/0415, yn unol ag argymhellion swyddogion, yn amodol ar yr
amodau a fanylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. |
Dogfennau ategol: