Agenda item

Trefniadau Pleidleisio o ganlyniad i Bresenoldeb o Bell

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:Cymeradwyo'r protocol ar gyfer pleidleisio, fel y nodir isod, am y cyfnod y cynhelir cyfarfodydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot o bell a rhoi caniatâd i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol ddiwygio'r cyfansoddiad yn briodol i gynnwys hyn:

 

·        Bydd y Cadeirydd yn darllen yr argymhellion o flaen yr aelodau (neu'n cyfeirio at rif tudalen yr adroddiad lle mae'r argymhelliad i'w gael).

·        Bydd y Cadeirydd yn gofyn i'r aelodau a oes unrhyw aelodau sydd am wrthwynebu'r argymhelliad, gan ddarparu cyfnod o oedi addas i ganiatáu i aelodau ymateb yn briodol - gallant wneud hynny naill ai trwy gyfleu'r gwrthwynebiad ar lafar, gan ddefnyddio'r cyfleuster ‘codi llaw’ ar Microsoft TEAMS neu drwy ddefnyddio'r cyfleuster sgwrsio ar Microsoft TEAMS.

·        Bydd y Cadeirydd yn gofyn i'r aelodau a oes unrhyw aelodau sydd am ymatal ar yr argymhelliad, gan ddarparu cyfnod o oedi addas i ganiatáu i aelodau ymateb yn briodol - gallant wneud hynny naill ai trwy gyfleu'r gwrthwynebiad ar lafar, gan ddefnyddio'r cyfleuster ‘codi llaw’ ar Microsoft TEAMS neu drwy ddefnyddio'r cyfleuster sgwrsio ar Microsoft TEAMS.

·        Yn dilyn hyn, tybir bod unrhyw aelodau nad ydynt wedi nodi i'r gwrthwyneb, o blaid yr argymhelliad.

·        Yna, bydd y Cadeirydd yn cadarnhau a yw'r argymhelliad wedi'i gymeradwyo ai peidio.

·        Os na all y Cadeirydd gadarnhau bod modd clywed pob aelod neu ei fod o'r farn bod angen galw rhestr enwau i sicrhau y cydymffurfir â'r broses ddemocrataidd, bydd gan y Cadeirydd yr hawl i alw rhestr enwau yr holl aelodau i gadarnhau eu pleidlais.

·        Os bydd y Prif Weithredwr, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd neu'r Swyddog Monitro o'r farn nad yw'r aelodau wedi cael eu clywed, byddant yn cynghori'r Cadeirydd y dylid galw rhestr enwau o'r holl aelodau i gadarnhau eu pleidlais. Bydd y disgresiwn terfynol ynghylch a ddylid galw rhestr enwau o'r fath yn parhau i fod yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.

·        I osgoi amheuaeth, ni fyddai'r protocol diwygiedig hwn yn berthnasol i gyfarfodydd y Pwyllgorau Trwyddedu neu Gynllunio (nac unrhyw is-bwyllgorau) oherwydd yr angen i fynd i'r afael â materion ychwanegol fel rhan o brosesau gwneud penderfyniadau yn y cyfarfodydd hynny (h.y. yr angen i sefydlu bod aelod wedi clywed pob elfen o'r ddadl cyn dod i benderfyniad).

·        Dylid nodi y bydd aelodau hefyd yn gallu gofyn am bleidlais gofnodedig yn unol â gofynion cyfansoddiad y cyngor.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: