Agenda item

Y Ganolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni, Twyni Crymlyn

Cofnodion:

Gyda chytundeb y Cadeirydd, symudwyd yr eitem hon o sesiwn breifat i un gyhoeddus (ac eithrio atodiadau B ac C sy'n aros yn eithriedig o dan baragraffau 13, 14 a 15).

 

Penderfyniadau:

 

1.           Mewn perthynas â'r ymgynghoriadau a gwblhawyd, gadarnhau'r penderfyniad mewn egwyddor blaenorol i newid y Ganolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni (CADY) yn orsaf drosglwyddo a fydd yn gallu ailgylchu rhagor o ddeunydd;

 

2.           Cyflwyno strwythur diwygiedig i'r Pwyllgor Personél mewn perthynas â staff er mwyn gweithredu gorsaf drosglwyddo a fydd yn gallu ailgylchu rhagor o ddeunydd, er mwyn iddo benderfynu arno, a darparu hysbysiadau o newid a/neu golli swyddi fel y'u hystyrir yn briodol gan y Pwyllgor Personél (bydd Amodau a Thelerau Llywodraeth Leol yn berthnasol i unrhyw rolau newydd).

 

3.           Nodi gofynion cyfalaf a chymeradwyo dyrannu £5.55m o raglen gyfalaf y cyngor, gan gynnwys cronfa wrth gefn;

 

4.           Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Gofal Strydoedd i amrywio'r hawlen amgylcheddol yn unol â'r newid i'r gwasanaeth;

 

5.           Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Gofal Strydoedd a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i ymgymryd ag ymarfer caffael ar gyfer contract trin gwastraff gweddilliol am hyd at 5 mlynedd, ac i wneud unrhyw drefniadau sy'n briodol er mwyn hwyluso'r ymarfer caffael hwn a dyfarnu'r contract i'r cynigiwr sy'n sgorio uchaf;

 

6.           Bydd y Pennaeth Gofal Strydoedd yn ymchwilio i ddichonoldeb a manteision ail-leoli cerbydlu casglu gwastraff ac ailgylchu'r cyngor i'r Orsaf Drosglwyddo, ac yn adrodd yn briodol wrth yr Aelodau am ganfyddiadau er mwyn cael penderfyniad pellach.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Penderfynu ar ddyfodol y CADY, mewn perthynas â'r newidiadau y cytunwyd arnynt yn flaenorol mewn egwyddor, ac sy'n destun ymgynghoriad. Bydd y cyfeiriad teithio ar gyfer gwastraff gweddilliol yn parhau ar duedd am i lawr wrth i ailddefnyddio ac ailgylchu etc. barhau i gynyddu. Ni fydd y trefniadau gwasanaeth presennol felly'n cyd-fynd â'r cyd-destun rheoli gwastraff sy'n datblygu os na wneir newidiadau.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad â staff.

 

 

Dogfennau ategol: