Cofnodion:
Esboniodd Cadeirydd
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd
gefndir y gwaith a wnaed gan y pwyllgor cyn cychwyniad COVID-19. Addaswyd y
gwaith hwn o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud a gofynnwyd i'r aelodau ystyried y
newidiadau sy'n gynwysedig yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
PENDERFYNWYD: 1. Nodi'r
gwaith a wnaed gan Bwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd i ddatblygu'r gwaith a roddwyd iddo ym mis
Gorffennaf 2019 - i gyflwyno gweddarlledu o gyfarfodydd y cyngor a gwella
cyfranogiad y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd;
2. Nodi effaith sefyllfa frys COVID-19 ar yr
argymhellion a baratowyd gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd mewn
perthynas â gweddarlledu cyfarfodydd y cyngor ac, fel sefyllfa dros dro, y
dylid nodi'r newidiadau i'r rheolau sefydlog sy'n gynwysedig yng nghyfansoddiad
y cyngor i ganiatáu recordio cyfarfodydd y cyngor, cyhoeddi'r recordiadau hynny
a ffrydio cyfarfodydd yn fyw;
3. Rhoi caniatâd i Bennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol i wneud y newidiadau sy'n angenrheidiol i'r cyfansoddiad sy'n codi
o gymeradwyo argymhellion 1 a 2 fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: