Any
urgent items (whether public or exempt) at the discretion of the Mayor pursuant
to Section 100B (4) (b) of the Local Government Act 1972.
Cofnodion:
Gwnaeth Arweinydd y Cyngor ddau ddatganiad fel a
ganlyn:
Mae Bywydau Du o Bwys
Mae llofruddiaeth greulon George Floyd ar 25 Mai 2020 wedi achosi
protestiadau rhyngwladol, a hynny'n iawn.
Dwi'n siŵr bod y digwyddiad hwn wedi brawychu holl aelodau'r cyngor ac
y byddwch i gyd yn ymuno â mi i gondemnio'r hyn a ddigwyddodd.
Mae llofruddiaeth George Floyd, sgandal Windrush ynghyd â digwyddiadau
eraill yn ein hanes diweddar yn dangos, er gwaetha'r holl ymrwymiadau a wnaed i
gyflawni cydraddoldeb hiliol ar draws cymdeithas, mae agweddau ac ymddygiad
hirsefydlog tuag at bobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn
bodoli o hyd, ac ni all hyn barhau.
Mae hyn yn arbennig o amlwg ar hyn o bryd pan fod pobl o gefndiroedd du,
asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn chwarae rôl hanfodol mewn ymateb i argyfwng
COVID-19 - yn aml ar y rheng flaen - ac ar yr un pryd, yn cael eu heffeithio'n
anghymesur gan y clefyd, sy'n destun pryder.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn heddiw i gyflwyno gogwydd newydd ar sut rydym
yn gweithio gyda'n cymunedau du, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng
Nghastell-nedd Port Talbot i gyflawni cydraddoldeb, ecwiti a chydlyniant
cymdeithasol.
Fel cynghorwyr etholedig, rhaid i ni ddangos arweiniad wrth gyflwyno’r
newid cymdeithasol sydd ei angen, a dangos bod bywydau du o bwys.
Digwyddiad ym Mlaendulais
Talodd yr Arweinydd deyrnged i'r gwasanaethau brys,
staff y cyngor ac aelodau'r gymuned a helpodd i achub mam a'i dau blentyn o'u
cartref yn dilyn y ffrwydrad nwy dinistriol ym Mlaendulais.
Eiliwyd hyn gan aelod ward yr ardal.