Cofnodion:
Derbyniodd y cyngor adroddiad Cyfarwyddwr yr
Amgylchedd ac
Adfywio mewn perthynas â Chynllun Datblygu Lleol yr
Awdurdod.
Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i argymell i'r cyngor
gan y Cabinet ar 25 Mehefin 2020.
Mynegwyd pryder bod y tywydd gwael ar ddechrau'r flwyddyn a chyfyngiadau
symud COVID- 19 wedi atal aelodau, y cyhoedd a rhanddeiliaid rhag cyfrannu at y
broses ymgynghori. Byddai pwysigrwydd mewnbwn aelodau i’r broses yn cael ei
amlygu
yn y Cytundeb Cyflawni. Nodwyd y byddai'r broses i
ddatblygu
CDLl newydd yn cymryd tair blynedd a hanner ac y
byddai'r
CDLl cyfredol yn parhau i fod yn ei le nes bod y
fersiwn newydd wedi'i mabwysiadu.
Mewn perthynas â chyfyngiadau symud COVID-19, teimlwyd bod hyn wedi amlygu
pwysigrwydd lleoliaeth, ysbryd cymunedol, gwella hygyrchedd i'r cymoedd ar
gyfer y cyhoedd a'r amgylchedd. Cytunodd
aelodau fod angen i'r cynllun fod yn hyblyg a nodwyd y byddai hyblygrwydd y
cynllun yn cael ei asesu
fel rhan o'r profion cadernid.
Derbyniodd yr aelodau sicrwydd y byddai polisïau
mewn perthynas â Thai Amlbreswyl (HMO’s) yn cael eu cynnwys yn y cynllun. Mewn
perthynas â datblygiadau tai bach, nodwyd nad oedd rhai datblygiadau wedi
ymddangos eto a bod hyn efallai oherwydd materion dichonoldeb. Cynhelir
adolygiad o nifer yr aneddiadau a'u ffiniau hefyd. Nodwyd bod y gallu i
gyflwyno hefyd yn brawf o gadernid y cynllun.
Mae cyfyngiadau symud COVID-19 wedi arwain at lawer o bobl yn gweithio
gartref a'r gobaith oedd y gallai hyn barhau ar ôl y cyfyngiadau symud gan
arwain at fwy o gyflogaeth yn ardaloedd y cymoedd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r ymatebion
a'r
argymhellion i'r sylwadau a
dderbyniwyd, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r
adroddiad a ddosbarthwyd, a bod yr
Adroddiad Adolygu terfynol, fel y nodir
yn Atodiad
2 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd, yn cael ei gymeradwyo.
Dogfennau ategol: