Agenda item

Diweddaru a Monitro'r Gyllideb ar gyfer 2020-21

Cofnodion:

Gobeithiwyd y byddai rhagor o gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru drwy gydol y flwyddyn o ganlyniad i'r costau cynyddol a gafwyd yn ystod pandemig COVID-19. Nododd yr aelodau y byddai costau ychwanegol pellach wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio a dod i ben ar draws y wlad.

 

Penderfyniadau:

 

1.           Cymeradwyo'r trosglwyddiadau a'r symudiadau o ran arian wrth gefn a gynigir, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.           Nodi'r materion gweithredol ac ariannol a ddisgrifir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

3.           Bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau a chyfeiriadau, i gyflwyno gwasanaethau yn ystod yr adeg heriol hon.

 

4.           Nodi'r grantiau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

5.           Bydd y cyngor yn parhau i geisio arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i dalu am ganlyniadau COVID-19 sef gwariant uwch, colli incwm, cost gynyddol Cymorth Treth y Cyngor a diffygion o ran casglu trethi, sy'n effeithio'n andwyol ar gyllid a gweithgarwch y cyngor.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Diweddaru Cyllideb y cyngor ar gyfer 2020/21 a hysbysu'r Aelodau o'r risgiau ariannol sy'n codi o COVID-19.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Dogfennau ategol: