Ymateb ar y
cyd y cyngor a'r Bwrdd Iechyd i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin
Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Cofnodion:
Yn dilyn
sylwadau ychwanegol gan y Bwrdd Iechyd, ychwanegwyd argymhelliad arall gan
swyddogion yn ystod y cyfarfod, a chytunodd yr Aelodau arno (penderfyniad 2
isod):
Penderfyniadau:
1.
Cymeradwyo'r Strategaeth Perthnasoedd Iach ar gyfer Cymunedau Cryfach' -
ymateb ar y cyd y cyngor a'r Bwrdd Iechyd i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod,
Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
2.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a
Diogelu'r Cyhoedd i gytuno ar unrhyw fân newidiadau terfynol i'r strategaeth
cyn ei chyhoeddi.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Cymeradwyo'r
strategaeth yn ffurfiol a sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio â'r dyletswyddau
o dan adran 5 (1) Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais
Rhywiol (Cymru) 2015.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.
Dogfennau ategol: