Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot 2011 - 2026

Ystyried y sylwadau a dderbyniwyd yn sgîl yr ymgynghoriad ar Adroddiad Adolygu'r CDLl drafft, a'r gweithdrefnau cyhoeddi i'w rhoi ar waith. 

 

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Argymell yr argymhellion canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1.           Cytuno ar yr ymatebion a'r argymhellion a wnaed i'r sylwadau a dderbyniwyd ac fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.           Cytuno ar yr Adroddiad Adolygu terfynol fel y nodwyd yn Atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Sicrhau y cydymffurfir ag Adran 69 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004; Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2015; a Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Rhifyn 3) 2020, ac i sicrhau y rhoddir y gweithdrefnau mabwysiadu a chyhoeddi ar waith fel y'u nodir yn yr adroddiad.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Rhoddir y penderfyniadau ar waith ar ôl i'r cyngor eu cymeradwyo.

 

Ymgynghoriad:

 

Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.

 

Dogfennau ategol: