Cofnodion:
Rhoddwyd cyflwyniad i'r aelodau gan Swyddfa
Archwilio Cymru am y tri adroddiad canlynol:
Cynllun Archwilio 2020
Cynllun Archwilio Blynyddol
CNPT 2020 - Effaith COVID-19
Rhaglen Waith Swyddfa
Archwilio Cymru
Yn dilyn y cyflwyniad,
codwyd y pwyntiau/cwestiynau canlynol:
·
Ydy Swyddfa Archwilio Cymru'n
hyderus y gall rheoli'r gwaith archwilio ariannol yn ystod pandemig
COVID-19? Mewn ymateb, rhoddwyd gwybod
i'r aelodau nad oedd gan Swyddfa Archwilio Cymru unrhyw broblemau ynghylch
rheoli'r gwaith archwilio ariannol ond dywedodd y gall gwaith arall nad yw'n
frys gael ei ail-drefnu.
·
A oedd Swyddfa Archwilio
Cymru’n gallu olrhain y llif cyllid a rhoi prosesau llywodraethu digonol ar
waith ynghylch hyn? Sicrhawyd aelodau
unwaith eto y byddai hyn yn cael ei wneud.
·
Sut bydd Swyddfa Archwilio
Cymru'n cyfleu'r wybodaeth hon i'r awdurdodau lleol? Sicrhaodd Swyddfa
Archwilio Cymru'r pwyllgor y caiff hyn ei wneud yn y ffordd arferol os cynhelir
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio.
·
Sut byddai Swyddfa Archwilio
Cymru'n cyflawni ei weithredoedd o ran llywodraethu? Cynghorodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid
a Chorfforaethol y pwyllgor yr oedd angen diwygio'r Datganiad Llywodraethu
Blynyddol a gymeradwywyd yn flaenorol gan y cabinet yn dilyn cychwyniad
COVID-19, ac y byddai Swyddfa Archwilio Cymru'n parhau i archwilio'r Datganiad
o Gyfrifon. Fodd bynnag, roedd problem
ynghylch archwilio’r dogfennau’n gyhoeddus oherwydd bod adeiladau dinesig yr
awdurdod ar gau i'r cyhoedd, ac i fynd i'r afael â hyn, newidiodd Swyddfa
Archwilio Cymru'r dyddiad ar gyfer derbyn cwestiynau'r cyhoedd i 1 Medi 2020.
·
Gofynnodd y pwyllgor a oedd
unrhyw oblygiadau i'r awdurdod yn dilyn dyfarniad McCloud a dywedwyd wrthynt fod yr actiwari wedi
darparu manylion unrhyw effaith ariannol ar yr awdurdod ac fe'u cynhwysir yn y
Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2019/2020.
·
Gofynnodd aelodau a gafwyd
unrhyw effaith ar y Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2019/2020 o ganlyniad i
COVID-19 a dywedwyd wrthynt bod hyn wedi bod yn gyfyngedig. Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a
Chorfforaethol yn paratoi adroddiad am oblygiadau'r flwyddyn ariannol
bresennol.
·
Pa newidiadau a wnaed a sut
byddai aelodau'n cael eu hysbysu?
Rhoddodd y Cyfarwyddwr drosolwg byr i'r pwyllgor o'r trefniadau sydd ar
waith ynghylch y broses ddemocratig, yn ogystal â materion megis cymorth trethi
i fusnesau, darparu lwfansau yn lle prydau ysgol am ddim, etc. Dywedodd Swyddog
Archwilio Cymru y byddai dwy ffrwd waith yn cael eu gweithredu, sef y Prosiect
Dysgu COVID, a fydd yn rhannu arfer gorau, yn rheoli risg ac yn rhannu
cyfleoedd y gall y 'normalrwydd newydd' ei ddarparu; a Chynllunio Adferiad.
·
Mynegwyd pryderon y byddai'r
sefyllfa bresennol yn parhau'r flwyddyn nesaf a'r goblygiadau y gallai hyn ei
gael ar y broses ddemocratig yn enwedig. Roedd yr aelodau’n pryderu'n fawr nad
oedd cyfarfodydd y pwyllgorau craffu eraill yn cael eu cynnal. Cynghorwyd y pwyllgor bod y broses bresennol
yn cael ei monitro a'i hadolygu ac y byddai'r Panel Adferiad a sefydlwyd yn
ddiweddar yn rhan o roi hon ar waith.
Dywedwyd wrth aelodau y byddai Llywodraeth Cymru'n
ad-dalu'r rhan fwyaf o wariant ychwanegol yr awdurdod o ganlyniad i
COVID-19. Derbyniodd yr awdurdod daliad
ar gyfer mis Mawrth ac mae'n aros am daliad mis Ebrill. Cyflwynir yr anfoneb ar gyfer mis Mai'n fuan
i gydymffurfio ag amserlen Llywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD nodi'r
adroddiadau uchod.