Agenda item

Cais Rhif. P2019/5574 - Pentref Trefol Coed Darcy, Llandarcy Castell-nedd

Application under S106A of the Town and Country Planning Act (TCPA) 1990 (as amended) to Modify the Section 106 agreement including, but not limited to, the delivery of strategic infrastructure including southern access road and strategic link road, schools and community facilities, affordable housing and M4 junction improvements at Coed Darcy Urban Village Llandarcy Neath.

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (Cais dan Adran 106A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd) i addasu cytundeb Adran 106 gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddarparu isadeiledd strategol gan gynnwys ffordd fynediad ddeheuol a ffordd gyswllt strategol, ysgolion a chyfleusterau cymunedol, tai fforddiadwy a gwelliannau i gyffordd yr M4 ym Mhentref Trefol Coed Darcy, Llandarcy, Castell-nedd), fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd asiant yr ymgeisydd yn bresennol i roi ei ddatganiadau yn ystod y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i'r egwyddorion yn y cytundeb Adran 106 fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a rhoi pwerau dirprwyedig i Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd am unrhyw fân ddiwygiadau i'r telerau hyn yn destun cytundeb yr ymgyngoreion perthnasol, ar yr amod nad yw'r diwygiadau'n tanseilio'r egwyddorion/nodau a ddisgrifir o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

 

Dogfennau ategol: