Agenda item

Penodi Prif Weithredwr

Amgaeir Adroddiad Pennaeth Adnoddau Dynol.

Cofnodion:

(Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, gwnaeth y swyddogion canlynol ydatganiadau o fuddiant canlynol,  gan adael yr ystafell am weddill y cyfarfod:

                          Y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol,

                                Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, Y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, Y Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai, Y Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog Digidol a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol).

 

PENDERFYNWYD: Bod y trefniadau i recriwtio Prif Weithredwr, fel y'u nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, gan gynnwys awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Adnoddau Dynol i bennu'r amserlen recriwtio, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb ac Adnoddau Corfforaethol, yn cael eu cymeradwyo.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: