Agenda item

Cais Rhif P2014/0083 - Heol y Gadwyn, Glyn-nedd

Datblygiad preswyl arfaethedig ar gyfer hyd at 50 o anheddau â mynediad i'w bennu (Amlinelliad) ar dir yn Heol y Gadwyn, Glyn-nedd.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (datblygiad preswyl arfaethedig ar gyfer hyd at 50 o anheddau, mynediad i'w benderfynu (amlinelliad) ar dir yn Chain Road, Glyn-nedd) fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd aelodau'r ward lleol, ac Aelod y ward gyfagos, yn bresennol i gyflwyno’u sylwadau yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   Yn unol ag argymhellion y swyddogion, gymeradwyo Cais Rhif P2014/0083 yn amodol ar y prif delerau, Cytundeb S106 a’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

2.   Os nad yw’r Cytundeb S106 wedi’i lofnodi o fewn 3 mis i ddyddiad y penderfyniad hwn, gwrthodir y cais am y rheswm a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

 

Dogfennau ategol: