Agenda item

Cyhoeddiadau Cyllid a Pholisi Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad llafar am y sefyllfa gyfredol ynghylch cyllid a chyhoeddiadau polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys grantiau i fusnesau bach, y Gronfa Cadernid Economaidd a chymorth Ardrethi Busnes Ardrethi Annomestig Cenedlaethol, gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi rhagor o ddyfarniadau grant i wahanol gyrff a sefydliadau yn yr wythnosau i ddod, yn ogystal â'r £24.4 miliwn sydd eisoes wedi'i dalu i 2221 o sefydliadau.

 

Rhoddwyd diweddariad ar y cyllid i'r cyngor a'r gwasanaethau mae'n eu darparu (arian ar gyfer cyllid llywodraeth leol)

 

·                    Sicrhawyd bod £30 miliwn ar gael i ddechrau (£7 miliwn ar gyfer prydau ysgol am ddim, £10 miliwn ar gyfer y digartref ac £13 miliwn ar gyfer gwasanaethau cyffredinol).

·                    Sicrhawyd bod £40 miliwn pellach ar gael ar gyfer y gronfa caledi gofal cymdeithasol hyd at ddiwedd mis Mai,

·                    £33 miliwn pellach ar gyfer prydau ysgol am ddim, tan ddiwedd mis Awst,

·                    a £3 miliwn ar gyfer TG i blant diamddiffyn nad oes ganddynt fynediad at dechnoleg.

 

Disgwylid rhagor o gyhoeddiadau cyllid gan Lywodraeth Cymru cyn bo hir.

 

Nododd Aelodau y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi £500 i weithwyr gofal - rhagwelwyd y byddai'r arian hwn yn mynd yn syth i'r darparwyr gofal preswyl i'w ddosbarthu, gan nad oedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu mwyach o fewn y cyngor. Nid oedd cymhwyster ar gyfer y taliad yn eglur eto, ond byddai rhagor o ddiweddariadau'n cael eu darparu i Aelodau pan fyddent ar gael:

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi ad-dalu £63,000 i'r cyngor ar gyfer mis Mawrth ar gyfer gwariant uwch oherwydd pandemig Covid-19 ac roedd cais am £814,000 wedi'i gyflwyno ar gyfer mis Ebrill.

 

Roedd gwybodaeth wedi'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch colli incwm a'r effaith ar gymorth a chasglu Treth y Cyngor - roedd y cyfarwyddwr yn aros am eglurhad ynghylch unrhyw gyllid posib ar gyfer hyn.

 

 

Byddai adolygiad monitro'r gyllideb yn cael ei gynnal cyn diwedd mis Mai i nodi canlyniadau'r materion hyn ar gyllidebau'r cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr Aelodau y byddai adroddiad monitro'r gyllideb cynnar yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet i'w drafod.

 

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd cofnodi'r diweddariad llafar.