Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Dirprwyo'r materion canlynol i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol yn dilyn
ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet perthnasol a Chadeirydd y
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol.
·
Ffïoedd a thaliadau ar gyfer swyddogaethau gweithredol, sy'n berthnasol ar
gyfer blwyddyn ariannol 2020/21
·
Ffïoedd a thaliadau sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol
ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, y mae angen penderfynu
arnynt cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol.
2.
Penderfynwyd argymell y canlynol i'r cyngor:
i) Sefyllfa
ddiweddaraf y gyllideb 2019/20 - i gymeradwyo sefyllfa ddwygiedig y gyllideb
a'r trefniadau ar gyfer 2019/20
ii) Cyllideb
Refeniw'r Cyngor 2020/21
- Ystyried
effeithiau'r Asesiad Effaith Cydraddoldeb a Throsedd ac Anhrefn wrth benderfynu
ar y gyllideb ar gyfer 2020/21
- Cymeradwyo
gofynion y Gyllideb Refeniw Net ar gyfer 2020/21, a chynlluniau'r gwasanaeth ar
gyfer cyflwyno’r cyllidebau.
-
Cymeradwyo'r gyllideb/arbedion y blaengynllun ariannol (fel a amlinellwyd yn
Atodiad 4)
- Cyfarwyddo
Cyfarwyddwyr Corfforaethol i weithredu'r arbedion a'r rhaglen wella ar gyfer yr
Awdurdod
iii) Ffïoedd
a thaliadau ar gyfer swyddogaethau anweithredol - dirprwyo'r awdurdod i
benderfynu ar y materion canlynol i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn
dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd y
pwyllgor anweithredol perthnasol
- Ffïoedd a
thaliadau ar gyfer swyddogaethau anweithredol sy'n berthnasol ar gyfer 2020/21
- Ffïoedd a
thaliadau sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol ac, ym
marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol, y mae angen penderfynu arnynt cyn y flwyddyn
ariannol am resymau gweithredol.
iv) Treth y
Cyngor 2020/21 – Y ffigur Band D Cyfwerth ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot yn 2020/21 fydd £1,615.59.
Rheswm dros
y penderfyniad:
I gyflawni'r
gofyniad statudol i benderfynu ar gyllideb ar gyfer 2020/21, i ofyn am gefnogaeth
ar gyfer Blaengynllun Ariannol y Cyngor, ac i gytuno ar drefniadau er mwyn
penderfynu ar Ffïoedd a Thaliadau.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl iddynt gael eu hystyried a'u cymeradwyo
gan y cyngor.
Dogfennau ategol: