Cofnodion:
Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg ddatganiad mewn perthynas â'r
difrod a achoswyd gan Storm Dennis.
Diolchodd eto i staff yr awdurdod, asiantaethau
eraill a'r gwasanaethau brys am eu hymdrechion. Nododd y cyngor fanylion y
gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd i gynorthwyo'r rhai yr effeithiwyd
arnynt ynghyd â gwaith i ddod o hyd i ffordd ymlaen, gydag asiantaethau eraill,
er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o hyn yn digwydd eto yn y dyfodol.
Nodwyd mai oddeutu £500k oedd cost y gwaith glanhau
hyd yma, ac nid oedd gwaith atgyweirio i'r isadeileddau yr effeithiwyd arnynt
wedi'i fesur eto. Yn dilyn cyhoeddiadau Prif Weinidog Llywodraeth Cymru,
rhoddwyd ymagweddau ar waith i sicrhau cyllid i dalu costau'r gwaith brys.