Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod y Cabinet yr adroddiad uchod. Er bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn isel,
tynnwyd sylw at y ffaith eu bod wedi'u cynnwys yn yr adroddiadau a oedd gerbron
yr Aelodau heddiw a gofynnwyd i'r cyngor gefnogi'r argymhellion a gafwyd yn yr
adroddiad.
Diolchodd yr Aelodau i swyddogion a'r Cabinet am y
gwaith a wnaed i gyflawni sefyllfa'r gyllideb ac am lobïo Llywodraeth Cymru a
arweiniodd at ffigur setliad gwell.
Croesawyd hyn, fodd bynnag, cytunwyd bod angen
rhagor o arian ychwanegol ar Gymru o hyd er mwyn gallu cynnal a gwella
gwasanaethau.
Yn ogystal, roedd yr Aelodau'n falch y gweithredwyd
ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gafwyd gan y cyhoedd a phwyllgorau craffu
perthnasol mewn perthynas â Chanolfan Celfyddydau Pontardawe, cyllid Hamdden
Celtaidd, y fformiwla ariannu ysgolion a diffygion glanhau ysgolion, a bod
argymhellion wedi'u newid o ganlyniad.
Mynegodd rhai Aelodau bryder y byddai'r cynnydd
arfaethedig o 3.7% yn Nhreth y Cyngor yn cael effaith negyddol ar deuluoedd
sydd eisoes ar incwm isel ac y byddai'n arwain at gymunedau sydd eisoes wedi'u
nodi fel ardaloedd o amddifadedd uchel, yn mynd yn fwy difreintiedig. Castell-nedd Port Talbot oedd â'r treth y
cyngor trydydd uchaf yng Nghymru o hyd.
Cafwyd trafodaeth ar y ddau gynnig a gyflwynwyd sef
y dylid defnyddio cronfeydd wrth gefn i alluogi gostyngiad o naill ai 3.5% neu
3% yn y cynnydd yn Nhreth y Cyngor er mwyn lliniaru'r effaith ar deuluoedd a
chymunedau yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Ymatebodd Arweinydd y Cyngor gan ddweud y byddai
defnyddio cronfeydd wrth gefn y cyngor, fel yr awgrymwyd gan rai Aelodau, yn
golygu na fyddai'r Cyngor yn gallu ariannu materion brys. Yn 2019/20 darparodd
y cronfeydd wrth gefn gyllid brys i gynorthwyo â phedwar tirlithriad yn
Ystalyfera a llifogydd a ddifrododd ffyrdd a phontydd pwysig. Roedd yn rhaid i'r cyngor sicrhau bod
cronfeydd wrth gefn ar gael i barhau i gefnogi argyfyngau anghynlluniedig. Ni
fyddai effaith lleihau Treth y Cyngor i naill ai 3% neu 3.5% yn cael fawr o
effaith ar dalwyr Treth y Cyngor ond byddai'n effeithio ar allu'r cyngor i
ymateb i argyfyngau anghynlluniedig.
Rhoddwyd y gwelliant cyntaf i'r cyngor fel a
ganlyn:
Bydd yr hyn sy'n cyfateb i Fand D 2020/21 ar gyfer
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port yn £1,603.30 a bydd cynnydd o 3% yn
Nhreth y Cyngor o'i gyferbynnu â chynnydd o 3.79% fel y nodir yn yr adroddiad,
gyda'r bwlch o 0.79% yn cael ei ariannu o'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol
(sy'n cynrychioli swm ychwanegol o £592,000 ar gyfer 2020/2021). Felly, cyfanswm y cronfeydd wrth gefn
cyffredinol i gydbwyso'r gyllideb yw £2.242m h.y. £1.65m a £0.592m.
Methodd y gwelliant uchod, yna dilynodd yr ail
welliant a gyflwynwyd i'r Cyngor, sef:
Bydd y
swm cyfatebol ar gyfer Band D 2020/21 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot yn £1,611.07 a bydd cynnydd o 3.5% yn Nhreth y Cyngor o'i
gyferbynnu â chynnydd o 3.79% fel y nodir yn yr adroddiad gyda'r bwlch o 0.29%
yn cael ei ariannu o'r gronfa gyffredinol wrth gefn (sy'n cynrychioli swm
ychwanegol o £217,000 ar gyfer 2020/2021). Felly, cyfanswm y cronfeydd wrth
gefn cyffredinol i gydbwyso'r gyllideb yw £1.867m h.y. £1.65m a £0.217m.
Methodd
y gwelliant uchod, ac o ganlyniad, ystyriwyd y prif argymhelliad a gafwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
PENDERFYNWYD: |
Gan
roi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, fel y'i cynhwysir yn Atodiad
7 i'r adroddiad a ddosbarthwyd: 1.
Y caiff y materion canlynol eu
dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y
Cyngor, yr Aelod Cabinet perthnasol a Chadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a
Chraffu perthnasol:- ·
Ffïoedd a thaliadau sy'n
berthnasol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 ·
Ffïoedd a thaliadau sy'n
berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol ac, ym marn y
Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, y mae angen penderfynu arnynt cyn y
flwyddyn ariannol am resymau gweithredol. 2.
Y dylid cymeradwyo'r
sefyllfa gyllidebol ddiwygiedig a'r trefniadau ar gyfer 2019/20. 3.
Ar ôl ystyried effeithiau'r
Asesiad Effaith Integredig a Throseddu ac Anhrefn, caiff gofyniad net y
Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21, a'r cynlluniau gwasanaeth ar gyfer
cyflwyno'r cyllidebau, y dylid cymeradwyo'r rhain ynghyd ag arbedion y
gyllideb/blaengynllun ariannol, fel y'u cynhwysir yn Atodiad 4 i'r adroddiad
a ddosbarthwyd. 4.
Y bydd Cyfarwyddwyr
Corfforaethol yn cael eu cyfarwyddo i fwrw ymlaen â'r arbedion a'r rhaglen
wella ar gyfer yr awdurdod. 5.
Dirprwyo ffïoedd a thaliadau
ar gyfer swyddogaethau anweithredol i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn
dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd y
Pwyllgor Anweithredol perthnasol. ·
Ffioedd a thaliadau sy'n
gymwys yn 2020/21 ·
Ffïoedd a thaliadau sy'n
gymwys ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr
Corfforaethol, y mae angen penderfynu arnynt cyn y flwyddyn ariannol am
resymau gweithredol. 6.
Mai'r swm cyfatebol ar gyfer
Band D 2020/21 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fydd
£1,611.07 |
Dogfennau ategol: