Agenda item

Derbyn cyflwyniadau gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru

Cofnodion:

Croesawodd y Maer Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Matt Jukes, y Prif Gwnstabl a Gareth Morgan, yr Uwch-arolygydd i'r cyfarfod blynyddol â'r cyngor.

 

Derbyniodd yr Aelodau gyflwyniad gan Mr Michael ar ehangu plismona yn y gymdogaeth i dargedu ymyrryd yn gynnar ac atal. Byddai swyddogion ychwanegol yn cael eu recriwtio yn dilyn y cyhoeddiad diweddar, gan y prif weinidog, am adnoddau ychwanegol. Fodd bynnag, nodwyd na fyddai hyn yn digwydd ar unwaith gan y byddai'n cymryd amser i hyfforddi'r swyddogion heddlu newydd. Ni fyddai unrhyw adnoddau ychwanegol i dalu am bensiynau etc., a chytunwyd ar gynnydd o 5.9% yn eu praesept.

 

Mewn perthynas â VAWSVDA, roedd staff meddygon teulu wedi'u hyfforddi i nodi tystiolaeth o drais domestig etc., ac o ganlyniad roedd nifer yr achosion wedi cynyddu. Nodwyd bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi darparu arian ychwanegol i dalu am hyn am gyfnod cychwynnol o chwe mis ac y byddai'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am y costau wedi hynny.

 

Dosbarthwyd taflen i aelodau yn ystod y cyfarfod a oedd yn hyrwyddo'r prosiect DRIVE sy'n dangos 'ymagwedd flaengar at gyflawnwyr cam-drin domestig difrifol', a fyddai'n cael ei gyflwyno ledled y rhanbarth. Hefyd, dosbarthwyd dyfyniad o The Times, wedi'i ddyddio 16 Medi 2019, yn canmol y gwaith yn ne Cymru hefyd.

 

Yna, anerchodd y Prif Gwnstabl y cyngor a dywedodd fod perthynas gadarnhaol iawn rhwng yr heddlu a'r awdurdod, yn enwedig y tîm diogelwch cymunedol, y cyfarwyddwyr corfforaethol ac aelod y cabinet. Dywedodd fod trosiant uchel o swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu gan eu bod wedyn yn dod yn swyddogion yr heddlu.

 

Nodwyd nad oedd 8 o bob 10 galwad a dderbyniwyd gan yr heddlu yn ymwneud â throseddu ac y gallent fod yn ymwneud ag unrhyw beth, o faterion gofal cymdeithasol i faterion iechyd meddwl. Roedd nyrsys seiciatrig cymunedol bellach wedi'u lleoli yn yr ystafell reoli er mwyn ceisio lleihau nifer yr achosion gwarchodaeth.

 

Gweithiodd Cymorth i Ferched Cymru gyda'r heddlu hefyd ynghylch materion VAWSVDA ac roedd yn braf nodi mai Heddlu De Cymru oedd â'r gyfradd ganlyniadau orau o ran erlyn troseddwyr.

 

Mewn perthynas â throseddau cyllell a Llinellau Sirol dyrannwyd llawer o adnoddau i fynd i'r afael â'r materion hyn gan fod y trais mwyaf difrifol yn gysylltiedig â chyffuriau. Mynegwyd pryder bod Abertawe’n ail yn y tabl sy'n ymwneud â marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, gyda Chastell-nedd Port Talbot yn 3ydd. Fodd bynnag, roedd nifer y troseddau, megis lladradau, yn lleihau.

 

Yn dilyn y cyflwyniadau cododd yr aelodau'r materion canlynol:

 

·        Codwyd gwaith y Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol (GDT) mewn perthynas â Llinellau Sirol a'r strategaeth blismona ehangach. Nododd yr Aelodau fod gwaith y Rhaglen Ymyrraeth Gyffuriau bellach yn cynnwys alcohol a'i bod wedi'i hehangu i gynnwys y rheini mewn carchardai ac ar ôl eu rhyddhau. Cafodd y GDT ei raddio'n ail yn nhabl y gynghrair. Byddai tri phrif faes yn cael eu targedu – cyflenwad, galw a gorfodi. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i darfu ar y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys defnyddio pobl ddiamddiffyn i'w helpu i'w dosbarthu.

·        Gofynnodd yr Aelodau sut y byddai'r Uned Lleihau Troseddau Treisgar a sefydlwyd yn ddiweddar yn effeithio ar droseddau difrifol iawn a throseddau treisgar. Ailddatganodd Mr Michael ei ymrwymiad i ymdrin â'r rhain a sefydlwyd strategaeth ar y cyd. Roedd angen i wasanaethau meddygon teulu, ysbytai ac ysgolion allu nodi risg bosib ac adrodd ar hyn.

·        Gofynnodd yr Aelodau beth oedd yn cael ei wneud i liniaru'r cynnydd mewn seiber-droseddu a throseddau sy'n cael eu galluogi gan systemau seiber, a nododd fod adnoddau ychwanegol wedi'u darparu gan yr heddlu, ond gallai hyn fod yn anodd gan fod rhai o'r tramgwyddwyr dramor. Bydd angen i unrhyw Strategaeth Cynhwysiad Digidol gynnwys elfen ddiogelwch ar gyfer pob grŵp oedran. Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda phrifysgolion i nodi'r datblygiadau sy'n cael eu gwneud yn y maes digidol a rhoddwyd Swyddogion Diogelu Ariannol ar waith. Cytunwyd y dylid rhoi pwysau ar ddarparwyr gwasanaethau i roi mesurau ar waith i leihau'r posibilrwydd o seiberfwlio a throseddau sy'n cael eu galluogi gan systemau seiber. Dylid annog defnyddwyr i gyrchu’r gwasanaeth Get Safe Online.

·        Gofynnodd yr Aelodau sut y byddai adnoddau'r heddlu'n newid dros y 12-18 mis nesaf, yng ngoleuni cyhoeddiad diweddar y Llywodraeth y byddai adnoddau'r heddlu'n cynyddu'n sylweddol. Mewn ymateb, nodwyd bod angen swyddogion ar yr heddlu a oedd yn barod yn weithredol ac yn cael effaith gadarnhaol ar amrywiaeth o fewn yr heddlu. Byddai'r dyraniad cyntaf o 136 o swyddogion ym mis Mawrth 2021. Nodwyd bod gan yr heddlu 4 prif faes sydd dan bwysau:

Swyddogion yr Heddlu

Swyddogion nad ydynt wedi'u gwarantu e.e. Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu

Swyddogion cefn

Cerbydau ac adeiladau

ac mai’r maes cyntaf yn unig oedd yn cael sylw gan fod yr adnoddau ychwanegol wedi'u clustnodi. Y gobaith oedd y byddai'r llywodraeth yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o wariant i fynd i'r afael â pheth o'r pwysau.

·        Codwyd materion yn ymwneud â Brexit a gallu'r heddlu i gynnal cydbwysedd priodol rhwng mynd i'r afael ag unrhyw densiynau cymunedol sy'n deillio o hynny a galwadau eraill. Rhoddwyd sicrwydd y byddai plismona yn y gymdogaeth yn parhau ac y byddai'r cynnydd mewn eithafiaeth adain dde yn cael ei dargedu.

·        Gan mai atal troseddu oedd y dewis rhatach, gofynnwyd i  Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a fyddai'n ystyried cyfrannu at uwchraddio a chynnal adnoddau teledu cylch cyfyng yr awdurdod? Nodwyd bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cytuno i wneud hyn yng ngogledd Cymru. Mewn ymateb, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei fod yn edrych ar ffyrdd o gydweithio wrth symud ymlaen.

·        Ceisiwyd sicrwydd y byddai pob ethnigrwydd yn derbyn yr un gwasanaeth gan yr heddlu. Yn benodol, trafodwyd y digwyddiad diweddar yn Rhondda Cynon Taf a nododd yr Aelodau fod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cynnal ymchwiliad cynhwysfawr i amgylchiadau'r achos.

·        Mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch yr effaith y byddai ymdrin â phethau megis ecsbloetio plant yn ei chael ar swyddogion yr heddlu a'r rhai sy'n ymdrin â galwadau ac fe’u sicrhawyd fod mesurau ar waith i gefnogi staff.

·        Mynegwyd pryder ynghylch y gostyngiad yn nifer yr unedau heddlu symudol sy'n patrolio'r traffyrdd. Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu y byddai angen edrych ar adnoddau, gan eu bod yn swyddi arbenigol iawn.

·        Gofynnodd yr Aelodau am adborth ar gyflwyno'r rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd yng Nghastell-nedd Port Talbot a nodwyd bod hon yn fenter ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall goblygiadau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Cyflwynwyd cynllun peilot ym Maesteg gyda chanlyniadau cadarnhaol.

 

Yna diolchodd y Maer iddynt am eu presenoldeb yng nghyfarfod heddiw a gwnaethant adael y cyfarfod.