Cofnodion:
Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiadau o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod:
Y Cynghorydd M Harvey Parthed Eitem
3 ar yr Agenda - cyflwyniad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Prif Gwnstabl
gan ei fod yn cael ei gyflogi gan Heddlu De Cymru, a chadarnhaodd fod ganddo
hawl i siarad a phleidleisio arno.
Y Cynghorydd J Miller Parthed
Eitem 3 ar yr Agenda – cyflwyniad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Prif
Gwnstabl gan ei fod yn aelod o Banel Gorllewin y Cynllun Ymweld â'r Ddalfa a
chadarnhaodd fod ganddo hawl i siarad a phleidleisio arno.