Cofnodion:
Croesawodd y Maer y Cynghorydd Mike Harvey yn ôl
i'r Cyngor ar ôl ei brofedigaeth ddiweddar.
Yn dilyn y difrod a'r llifogydd a achoswyd yn
ddiweddar gan Storm Dennis, diolchodd Aelodau'r Cyngor i staff yr awdurdod a
staff asiantaethau partner am eu gwaith caled i leihau'r tarfu a'r difrod.
Mynegodd yr aelodau bryder hefyd ynghylch y bobl hynny yr oedd y storm wedi
effeithio arnynt.