Cofnodion:
Penderfyniad:
Gwella'r strydlun yng Nghilfach Trefelin, Felindre,
Port Talbot gyda cholofn goleuo stryd 6 metr ychwanegol, yn ogystal â lamp LED
27 watt, gyda'r Cynghorydd Saifur Rahaman yn cyfrannu £1,584 dan Gronfa
Gymunedol yr Aelod.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Cymeradwyo'r cais am gyllid a dderbyniwyd dan
Gronfa Gymunedol yr Aelod.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: