Cofnodion:
Oherwydd y newidiadau diweddar i bortffolios
aelodau'r Cabinet, nododd yr aelodau y byddai'r cyfeiriadau i'r Dirprwy
Arweinydd yn y polisi, y manylwyd arnynt ar dudalen 53 yr adroddiad a
ddosbarthwyd, yn cael eu newid o 'Dirprwy Arweinydd' i 'Aelod y Cabinet dros
Gyllid'.
Penderfyniad:
Cymeradwyo'r Polisi Hysbysebu a Noddi, fel y nodwyd
yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn amodol ar ddiwygio'r newid
cyfrifoldeb o 'Dirprwy Arweinydd' i 'Aelod y Cabinet dros Gyllid'.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Caniatáu i'r cyngor gymryd ymagwedd gorfforaethol a
chyson at gwblhau'r gweithgareddau creu incwm hyn, a darparu fframwaith a
mesurau rheoli clir i sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth, codau diwydiant a
pholisïau'r cyngor, gan gynnig y gwerth gorau am arian.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: