Adroddiad ar
y cyd gan y Prif Weithredwr, y Prif Weithredwr Cynorthwyol a’r Prif Swyddog
Digidol yn atodedig
Cofnodion:
Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad uchod gan nodi
nad oedd y goblygiadau a ddeilliai o leihau'r oedran etholiad wedi'u cynnwys yn
y cynigion na hefyd y cynnydd yn nifer yr etholwyr o ganlyniad i'r mewnlifiad o
fyfyrwyr.
Teimlai rhai Aelodau fod y cynigion yn effeithio ar
gymunedau'r cymoedd mewn modd anghymesur drwy leihau cynrychiolaeth aelodau ac
effeithio'n andwyol ar hunaniaethau'r cymoedd.
Nid oedd ystyriaeth wedi'i rhoi i'r effaith y byddai'r cynigion yn ei
chael ar y preswylwyr.
Roedd rhai Aelodau'n anhapus â'r argymhellion a
gafwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn arbennig:
·
Y bwriad i alinio wardiau
Pelenna, Bryn a Chwmafon.
·
Y bwriad i gyfuno wardiau
Glyn-nedd a Blaengwrach.
·
Y bwriad i gyfuno wardiau
Pontardawe a Threbannws.
·
Y cynnig ar gyfer ward
Aberafan.
Roedd atodiad wedi'i ddosbarthu, cyn y cyfarfod, yn
amlinellu pryderon Grŵp Plaid Cymru ac yn cynnig diwygiad i'r argymhellion
a gafwyd yn yr Adroddiad ar y cyd.
Atgoffwyd yr Aelodau fod y ddogfen ymgynghori
wedi'i chyhoeddi gan y Comisiwn Ffiniau ac na ellid ystyried lefelau
amddifadedd, troseddu ac ati. Roedd y
cynigion yn seiliedig ar niferoedd y boblogaeth.
Cafodd y diwygiad a gynhwyswyd yn yr atodiad ei
gyflwyno yn y cyfarfod. Methodd hyn ac ystyriwyd
y prif argymhelliad fel y'i cynhwyswyd yn yr Adroddiad ar y Cyd.
PENDERFYNIAD: Dylid awdurdodi'r Prif Weithredwr i gyflwyno
ymateb i'r Comisiwn Ffiniau yn seiliedig ar yr asesiad gan swyddogion a
gynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: