Adroddiad ar
y cyd gan y Prif Weithredwr, y Prif Weithredwr Cynorthwyol, y Prif Swyddog
Digidol a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol yn atodedig
Cofnodion:
PENDERFYNWYD: 1. Nodi cynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio a chryfhau llywodraeth
leol a
gwella trefniadau etholiadol, fel a nodir ym Mesur Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru).
2. Ar ôl
ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'r
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, y dylid cymeradwyo'r
sefyllfa, fel y'i nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
3. Y bydd y Prif Weithredwr yn cael ei awdurdodi i
ymateb yn ffurfiol i'r cynigion ar ran y cyngor hwn drwy Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru.
Dogfennau ategol: