Agenda item

Ymateb ar y cyd i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Awdurdodi'r Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog digidol i ddechrau ymarfer ymgynghori cyhoeddus pedair wythnos ar y Strategaeth Perthnasoedd Iach ar gyfer Cymunedau Cryfach ddrafft, fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd, ac adrodd wrth y Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad ym mis Mawrth 2020.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Rhoi awdurdod ffurfiol i'r swyddog perthnasol gymryd y camau gweithredu sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio â'r dyletswyddau o dan Adran 5 (1) Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

Dogfennau ategol: