Cofnodion:
Dywedodd Arweinydd y Cyngor wrth yr aelodau fod
prosiectau'r awdurdod a oedd wedi'u hailweithio wedi'u cymeradwyo mewn cyfarfod
o'r Cydbwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2020.
Gwerth y prosiect oedd tua £60m, y byddai £45m ohono'n dod o gronfa
Rhaglen y Fargen Ddinesig. Byddai'r prosiectau yn awr yn cael eu hanfon ymlaen
at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'w cymeradwyo.
Roedd yr Aelodau'n falch o'r newyddion a nodwyd bod
cyfarwyddwr rhaglen newydd wedi'i benodi i Swyddfa Rhaglen y Fargen Ddinesig.