Cofnodion:
(Ar y pwynt hwn o'r
cyfarfod, ailddatganodd y Cynghorydd Leanne Jones ei budd, a gadawodd y
cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.)
Penderfyniad:
Rhoi cyfarpar hyfforddi hanfodol i Glwb Pêl-droed
Tonna, Mount Pleasant, Tonna, Castell-nedd a dyfarnu dyraniad y Cynghorydd
Leanne Jones o £951.25 dan Gronfa Gymunedol yr Aelod.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Cymeradwyo'r cais am gyllid a dderbyniwyd dan
Gronfa Gymunedol yr Aelod.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn.
(Ailymunodd y Cynghorydd Leanne Jones â'r
cyfarfod.)
Dogfennau ategol: