Cofnodion:
(Ar y pwynt hwn o'r
cyfarfod, ailddatganodd y Prif Weithredwr, Steven Phillips, ei fudd, a gadawodd
y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.)
Penderfyniadau:
1.
Rhoi'r darpariaethau a nodwyd yn y Cytundeb
Cyfranddalwyr ar gyfer Baglan Bay Company Limited ar waith, a chynnig y
cyfranddaliadau yn Baglan Bay Company Limited yn ôl i gwmni St. Modwen, gyda'r
Prif Weithredwr yn ymddiswyddo o'r cwmni ar ôl rhoi'r ddeddfwriaeth gyfreithiol
ar waith.
2.
Y byddai'r cyngor yn gwrthod y cynnig i dderbyn
cyfranddaliadau gan Prince's Foundation mewn perthynas â ‘Coed Darcy Limited’,
a byddai'r cyngor yn rhoi'r darpariaethau a amlinellwyd yn y Cytundeb
Cyfranddaliadau ar gyfer Coed Darcy Limited, sy'n gofyn i St Modwen brynu
cyfranddaliad y cyngor am £1. Yn ychwanegol, byddai'r Prif Weithredwr yn
ymddiswyddo o'r cwmni ar ôl rhoi'r ddogfennaeth gyfreithiol ar waith.
3.
Byddai Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, mewn
ymgynghoriad â'r Arweinydd neu Aelod priodol y Cabinet, yn cwblhau'r
ddogfennaeth gyfreithiol o ran y taliadau uchod.
Rhesymau dros y
Penderfyniadau:
Rhoi gofynion y
Cytundeb Cyfranddalwyr ar gyfer Baglan Bay Company Limited a Coed Darcy Limited
ar waith, a thynnu enw'r cyngor fel cyfranddalwyr y sefydliadau hyn.
Rhoi Penderfyniadau ar
Waith:
Caiff y penderfyniadau
eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
(Ailymunodd y Prif
Weithredwr â'r cyfarfod).
Dogfennau ategol: