Cofnodion:
Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiadau o
fuddiannau ar ddechrau'r cyfarfod:
Y Cynghorydd L C Jones -
Parthed: Cronfa Gymunedol yr Aelod - Tonna, gan ei fod yn cyfeirio at ei
Chronfa Gymunedol. Gan fod ei budd yn rhagfarnol, gadawodd hithau'r ystafell yn
ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.
Y Cynghorydd E V Latham -
Parthed Eitemau Cronfa Gymunedol yr Aelod, dwyrain Sandfields - gan eu bod yn
cyfeirio at ei ward a'i Gronfa Gymunedol. Gan fod ei fudd yn rhagfarnol,
gadawodd yntau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.
Y Cynghorydd A
Lockyer Parthed: Eitemau Cronfa
Gymunedol yr Aelod, gogledd Castell-nedd - gan eu bod yn cyfeirio at ei Gronfa
Gymunedol. Gan fod ei fudd yn rhagfarnol, gadawodd yntau'r ystafell yn ystod y
drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.
Y Cynghorydd A Wingrave -
Parthed Cofnod Rhif 26: Cronfa Gymunedol
yr Aelod, Canol Coed-ffranc - am ei bod yn cyfeirio at Gronfa Gymunedol mewn
ward gyfagos y mae wedi cael profiad o weithio gyda hi. Gan fod ei budd yn
rhagfarnol, gadawodd hithau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am
hynny.
Gwnaeth Prif Weithredwr Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:
Steven Phillips
Parthed Trefniadau'r Dyfodol mewn perthynas â Chyfranddaliadau Cyngor
Castell-nedd Port Talbot yng nghwmnïau Baglan Bay Company Limited a Coed Darcy
Limited, gan ei fod yn Gyfarwyddwr y cwmnïau dan sylw. Gan fod ei fudd yn
rhagfarnol, gadawodd yntau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am
hynny.