Adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cyllid a Chorfforaethol yn amgaeëdig
Cofnodion:
PENDERFYNWYD:Y bydd y cyngor yn cymeradwyo'r
canlynol mewn perthynas â sefydlu ei Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar
gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021:
·
Cymeradwyo
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru)
2013 fel y'u diwygiwyd ymhellach gan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth
Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020;
·
Cymeradwyo cadw'r elfennau dewisol presennol mewn
perthynas â'r Cynllun Rhagnodedig:
(a) Na ddylid cymhwyso unrhyw gynnydd yn y cyfnod
ôl-ddyddio ar gyfer pob hawliwr o'r 3 mis safonol a gynhwysir yn y Cynllun
Rhagnodedig.
(b) Na ddylid cymhwyso unrhyw
gynnydd yn y cyfnod gostyngiad estynedig ar gyfer pob hawliwr o'r 4 wythnos
safonol sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Rhagnodedig ar hyn o bryd.
(c) Cymhwyso diystyriad 100% ar
gyfer Pensiynau Anabledd Rhyfel, Pensiynau Rhyfel Gwŷr a Gwragedd Gweddw
ar gyfer pob hawliwr.
Dogfennau ategol: