Adroddiad Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd yn amgaeëdig
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr eitem
gan Arweinydd y Cyngor. Cytunodd yr Aelodau ar bwysigrwydd cynyddu
ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r adolygiad. Yn benodol, mynegodd aelodau'r farn
ynghylch y cydbwysedd rhwng trefi, cymoedd a'r ardaloedd arfordirol. Gellid
edrych ar bolisïau ynghylch, er enghraifft, Tai Amlfeddiannaeth yn ystod yr
adolygiad.
Yna nododd yr
Aelodau y byddai'r Cynllun Datblygu Lleol presennol (CDLl) yn estyn tan 2026, a
byddai'r cynllun newydd yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2020 a 2035. Byddai'r adolygiad ei hun yn cymryd pedair
blynedd ac yn parhau i gyfnod y cyngor newydd yn 2022.
Anogodd swyddogion
yr Aelodau i gysylltu â swyddogion pe bai ganddynt unrhyw ymholiadau.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Adolygu'r Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl) drafft, fel y'i nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd, fel un a fydd yn sail ar gyfer ymgynghori wedi'i dargedu ac y
byddai'r gweithdrefnau cyhoeddi ac ymgynghori fel y'u nodir ynddo'n cael eu
rhoi ar waith.
Dogfennau ategol: