Agenda item

Cyflwyniadau ar brosiectau lleol ar gyfer Sir Gâr a diweddariad ar y Prosiect Isadeiledd Digidol

Minutes:

Derbyniodd yr Aelodau ddiweddariad am y prosiectau lleol canlynol ar gyfer Sir Gâr a'r prosiectau rhanbarthol a arweinir gan Sir Gâr:

 

Prosiect Gwyddorau Bywyd a Lles yn Llynnoedd Delta, Llanelli

 

Prosiect mawr aml-gam oedd hwn, ac roedd y Fargen Ddinesig yn rhan ohono. Cynghorwyd y pwyllgor y disgwylir i'r Fargen Ddinesig gyfrannu buddsoddiad o £40m, a fyddai'n arwain at y fantais economaidd arfaethedig o 1800 o swyddi a byddai'n creu effaith economaidd arfaethedig o £460m dros 15 mlynedd.

 

Derbyniodd yr Aelodau fanylion elfennau o brosiect y Fargen Ddinesig, sy'n cynnwys y canlynol:

 

·      datblygu busnesau'n seiliedig ar wyddorau bywyd

·      cyfleusterau addysg, sgiliau a hyfforddiant

·      uned glinigol â staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

Nododd y pwyllgor fod caniatâd cynllunio amlinellol wedi'i gymeradwyo ac y byddai brandio'r safle'n cael ei lansio'n fuan.  Disgwylir i gam un gael ei gwblhau erbyn diwedd 2022.

 

 

Yr Egin yng Nghaerfyrddin

 

Fe'i hagorwyd yn swyddogol ym mis Hydref 2018 ac mae Pencadlys S4C ar y llawr cyntaf. Mae cam un yn llawn a disgwylir i asesiad o'r budd economaidd i Sir Gâr a'r rhanbarth gael ei gwblhau'n fuan.

 

Disgwylir i ddau adeilad arall gael eu hadeiladu erbyn 2023 fel cam dau ac roedd yn bleser nodi bod llawer o ddiddordeb yn y cam datblygu hwn.

 

Prosiect Isadeiledd Digidol

 

Hysbyswyd y pwyllgor bod y prosiect hwn ar y cam cynllunio busnes a chwblhawyd cynllun busnes 5 achos sydd wedi'i drosglwyddo i Lywodraethau'r DU a Chymru i'w gymeradwyo.

 

Mae'r prosiect sy'n werth £50m yn cynnwys 3 elfen:

 

·      Coridor traffig;

·      Ardaloedd gwledig

·      Dinasoedd wedi'u cysylltu

 

Penodwyd rheolwr i symud hwn yn ei flaen ar sail rhanbarthol.

 

Y Prosiect Sgiliau a Doniau

 

Mae hwn ar y cam cynllun busnes uwch ac mae'n brosiect sy'n werth £30m a fydd yn rhoi sgiliau a doniau i gefnogi prosiectau eraill y Fargen Ddinesig.

Bydd trafodaethau gyda Llywodraethau'r DU a Chymru'n cychwyn yn fuan.

 

Yn dilyn y cyflwyniadau, cododd yr aelodau'r materion canlynol:

 

·      Mewn perthynas â'r Prosiect Gwyddorau Bywyd a Lles, gofynnodd yr aelodau sut mae'r manteision wedi'u nodi a beth yw'r elfennau gwahanol? Wrth ymateb, esboniodd y swyddogion yr ystyriwyd yr holl elfennau, o nifer swyddi adeiladu'r prosiect ofal iechyd i'r swyddi datblygu busnes.  Ceisiwyd sicrwydd ynghylch a oedd y dadansoddiad ar y manteision economaidd i'r ardal yn ddigon trylwyr. Byddai Swyddfa'r Rhaglen yn rhoi manylion i'r aelodau ynghylch sut cafodd hyn ei asesu, gan gynnwys nifer y swyddi ym mhob sector.

·      Mewn perthynas â datblygu'r tir, cadarnhaodd Swyddfa'r Rhaglen nad oedd y £467m yn cynnwys y costau datblygu o £200m ar gyfer pob darn o dir (cyfranodd y Fargen Ddinesig £40m) a chytunodd i ddosbarthu papurau ychwanegol i'r aelodau yn y cyswllt hwn.

·      Gofynnodd yr aelodau sut roedd darparwyr addysg uwch yn cyfranogi ym mhrosiectau'r Fargen Ddinesig ac fe'u cynghorwyd bod chwe phartner academaidd yn awyddus i gymryd rhan. Datblygir Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda phob un o'r partneriaid hynny.

·      Gofynnwyd i Swyddfa'r Rhaglen a fyddai'r prosiectau a amlinellwyd yn fuddiol i'r prinder staff clinigol ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda a'r prinder o staff yn y gwasanaethau cymdeithasol?  Cadarnhawyd hyn.  Mewn perthynas ag ailsefydlu, byddai cydweithio â'r bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol yn hwyluso gwasanaeth gwell. Ceisir buddsoddiad sector preifat a datblygwyd Memorandwm Gwybodaeth ac mae'r Swyddog Adran 151 wrthi'n trafod â'r sector preifat.

·      A fyddai'r pentref yn galluogi staff clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gynnal ei waith rhyngwynebu â'r cyhoedd mewn ardaloedd lleol? Cadarnhawyd yr ystyriwyd hyn yn ystod y cam cynllunio.  Gellir defnyddio tele-iechyd a thele-ofal hefyd mewn ardaloedd gwledig yn enwedig.

·      Mynegwyd pryder ynghylch cyflwyno'r Isadeiledd Digidol mewn ardaloedd gwledig oherwydd bod hyn yn broblem. Bydd argaeledd 4G/5G yn effeithio ar ddyheadau'r prosiect yn Llynnoedd Delta wrth ddefnyddio tele-iechyd a thele-ofal. Ceisir sicrwydd y byddai'r Fargen Ddinesig yn plethu â phrosiectau cenedlaethol.  Nododd Swyddfa'r Rhaglen y penodwyd ymgynghorwyr er mwyn dod o hyd i ddatrysiad a bod Swyddfa'r Rhaglen wedi bod yn gweithio gyda Llywodraethau'r DU a Chymru ar hyn.

·      Gofynnodd yr aelodau a oedd tai cymdeithasol wedi'u cynnwys a nodwyd bod gweithgor wedi'i sefydlu, ond bod rhai tai cymdeithasol yn y pentref. 

·      Gofynnodd yr aelodau am y canlyniadau gwirioneddol i fesur llwyddiant y prosiectau a sut y byddai hyn yn cael ei werthuso a'i fonitro. Nododd Swyddfa'r Rhaglen fod Bwrdd y Rhaglen wedi cymeradwyo'r broses o dendro am ymgynghorwyr i ddatblygu proses monitro a gwerthuso a chynllun gweithredu sicrwydd integredig, gan gynnwys nodi sut mae'r prosiectau'n gysylltiedig â'i gilydd.  Ariennir hyn gan Lywodraeth Cymru a byddai'n cynnwys holl brosiectau'r Fargen Ddinesig.

·      Gofynnodd yr aelodau sut roedd y Ganolfan Lles yn elwa holl bartneriaid y Fargen Ddinesig a nodwyd y byddai argaeledd y sgiliau ar gyfer darpariaeth iechyd uniongyrchol yn cynyddu a bod y gwaith hwn yn parhau gyda chyfleusterau addysg ar draws rhanbarth y Fargen Ddinesig.

 

 

 

 

 

Supporting documents: