Caniatâd cynllunio llawn ar gyfer datblygiad arfaethedig o 35 o gartrefi di-garbon ac adeilad cymunedol ynghyd â gwaith cysylltiedig, gan gynnwys tirlunio, parcio, mynediad, gwaith peiriannu a gwaith lliniaru ecolegol ym Mharc Hadau, tir yn Waun Sterw, Rhyd-y-fro, Pontardawe.
Cofnodion:
Gwnaeth
swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio am y cais hwn (caniatâd cynllunio
llawn ar gyfer datblygiad arfaethedig 35 o gartrefi di-garbon ac adeilad
cymunedol ynghyd â'r gwaith cysylltiedig, gan gynnwys tirlunio, parcio,
mynediad, gwaith peirianneg a gwaith lliniaru ecolegol ym Mharc Hadau, tir yn
Waun Sterw, Rhyd-y-fro, Pontardawe) fel y nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Yn unol â'r
Protocol Siarad Cyhoeddus a gymeradwywyd gan y cyngor, roedd yr asiant wedi
annerch y Pwyllgor Cynllunio.
Roedd aelod
y ward lleol hefyd yno i roi ei datganiadau yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo
Cais Rhif P2019/5543, yn unol ag argymhellion swyddogion, yn amodol ar yr
amodau a fanylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, ac yn dilyn y geiriau
diwygiedig yn amodau 5 a 7 a ddarparwyd yn y daflen diwygiadau a ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: