Agenda item

Arian Grant y Trydydd Sector - Dyfarnu Grantiau ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2020/21

Cofnodion:

(Ar y pwynt hwn o'r cyfarfod, ailddatganodd y Cynghorydd D Jones ei budd, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.)

 

Penderfyniadau:

 

1.           Cadarnhau'r gyllideb ar gyfer Grantiau Trydydd Sector ar gyfer 2020/21 fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.           Cymeradwyo dyraniadau grantiau ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector, fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

3.           Peidio â dyfarnu'r grantiau ar gyfer y ceisiadau yn Atodiad 2 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

4.           Cadarnhau swm y grant sy'n daladwy i bob Partner Strategol fel y nodwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Cymeradwyo grantiau i sefydliadu'r trydydd sector yn unol â chynllun y cyngor.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

Dogfennau ategol: