Cofnodion:
Penderfyniad:
Rhoi
indemniad i Nicola Pearce (yn ei rôl fel Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio)
yn y ffurflen a atodwyd i'r adroddiad a ddosbarthwyd yn Atodiad 1, mewn
perthynas â goblygiadau trwyddedau amgylcheddol a chyfrifoldeb statudol am y
Ganolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni (MREC) y mae gofyn i'r swyddog ei ddal, a
gyda'r indemniad hwn yn dechrau ar 3 Ionawr 2020.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Galluogi'r
cyngor i ddal y Drwydded Amgylcheddol mewn perthynas â'r MREC ac i sicrhau bod
yr indemniadau priodol ar waith ar gyfer y swyddogion sy'n cymryd cyfrifoldeb
personol am y materion hynny.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: