Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Byddai Cyfarwyddwr yr
Amgylchedd ac Adfywio, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd ac unrhyw
swyddogion a enwebwyd ganddynt yn cael eu dynodi fel archwilwyr yn unol ag
Adran 19 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974.
2.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd ac
unrhyw swyddogion a ddynodwyd ganddynt fel archwilwyr i ddechrau unrhyw achosion
cyfreithiol o dan Adran 38 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974.
3.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd ac
unrhyw swyddogion a ddynodwyd ganddynt fel archwilwyr i arfer unrhyw
weithrediadau a ddynodir i archwilwyr o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y
Gwaith etc 1974.
4.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i ddiwygio'r cyfansoddiad er mwyn
gweithredu'r gofynion hyn.
Rheswm dros y Penderfyniadau:
Sicrhau bod yr awdurdodau priodol yn eu lle er mwyn gorfodi goblygiadau
statudol o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i
mewn.
Dogfennau ategol: