Cofnodion:
Gwnaeth yr
aelodau canlynol ddatganiadau o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:-
Y Cynghorydd D Jones - Parthed:
Cyllideb Grant y Trydydd Sector - Dyrannu Grantiau ar gyfer y Flwyddyn Ariannol
2020/21, oherwydd ei bod yn Ymddiriedolwr CGG ac Age Connects Castell-nedd Port
Talbot ac yn aelod o Gymdeithas Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du Castell-nedd
Port Talbot. Gan fod ei budd yn rhagfarnol, gadawodd hithau'r ystafell yn ystod
y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.
Y Cynghorydd L C Jones - Parthed: Cronfa Gymunedol yr
Aelod - Tonna, gan ei fod yn cyfeirio at ei Chronfa Gymunedol. Gan fod ei budd
yn rhagfarnol, gadawodd hithau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio
am hynny.
Y Cynghorydd R G Jones - Parthed: Cronfa Gymunedol yr
Aelod - Margam, gan ei fod yn cyfeirio at ei Gronfa Gymunedol. Gan fod ei fudd
yn rhagfarnol, gadawodd yntau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio
am hynny.
Y Cynghorydd E V Latham - Parthed Cronfa Gymunedol yr
Aelod - Gorllewin Sandfields, gan ei fod yn cyfeirio at Gronfa Gymunedol o fewn
ei ward.
Y Cynghorydd P D Richards - Parthed:
Cyllideb Grant y Trydydd Sector - Dyrannu Grantiau ar gyfer y Flwyddyn Ariannol
2020/21, oherwydd ei fod yn aelod o fwrdd Gofal a Thrwsio Bae'r Gorllewin.