Cofnodion:
Derbyniodd y cyngor ddatganiad gan Arweinydd y
Cyngor ar Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn unol â'r ymrwymiad a roddwyd yn ystod
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2019. Yn benodol, atgoffwyd y cyngor am yr
achos busnes newydd - Arloesedd a Thwf Carbon Isel.
Nododd aelodau'r cynnydd a wnaed wrth
gyflwyno'r prosiectau a bod llinyn ychwanegol ynghylch trafnidiaeth hefyd yn
cael ei ddatblygu.
Croesawodd aelodau'r diweddaraf gan yr
Arweinydd ac roeddent yn gobeithio y byddai'r prosiectau'n dechrau'n fuan.
Dogfennau ategol: