Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod y Cabinet yr adroddiad uchod, a
oedd yn edrych yn ôl ar y flwyddyn flaenorol. Nodwyd y byddai'r adroddiad yn
cael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod a'i anfon at Lywodraeth Cymru er
gwybodaeth yn dilyn cyfarfod heddiw.
Yn dilyn yr uchod, gofynnodd aelodau am waith y
cydlynwyr ardaloedd ac a oedd digon o allu wrth ehangu eu hardaloedd. Atgoffodd
y cyfarwyddwr fod hyn yn cyfeirio at y llynedd a bod a llwyth gwaith wedi cael
ei reoli'n gyfartal ar draws bob rhan o'r fwrdeistref sirol. Anogwyd aelodau i
gysylltu'n uniongyrchol â'u cydlynydd ardal perthnasol.
Gofynnwyd i'r cyfarwyddwr pa waith sy'n cael ei
wneud i gefnogi gofalwyr a dywedodd y datblygwyd Strategaeth Gofalwyr at y
diben hwn ac y byddai'n cael ei hadolygu yn y flwyddyn newydd.
PENDERFYNWYD y
byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.
Dogfennau ategol: