Cofnodion:
Croesawodd y Dirprwy Faer y Prif Swyddog Tân, Chris
Davies a'r Rheolwr Ardal, Peter Greenslade, o Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth
a Gorllewin Cymru, i'w cyfarfod blynyddol â'r cyngor.
Nododd y cyngor y sefyllfa bresennol o ran Papur
Gwyn Llywodraeth Cymru, a nodwyd bod yr ymgynghoriad wedi cau ym mis Chwefror
2019. Mae Llywodraeth Cymru'n dadansoddi'r ymatebion a dderbyniwyd ar hyn o
bryd.
Amlinellodd y Prif Swyddog Tân sefyllfa ariannol
bresennol yr Awdurdod Tân, a nodwyd yn benodol na fyddai unrhyw doriadau yn y
dyfodol yn arbedion effeithlonrwydd, yn hytrach byddant yn cael effaith
negyddol ar ddarpariaeth y gwasanaeth. Amlinellodd Mr Davies opsiynau amrywiol
y byddai'n cael eu hystyried yn ystod rownd y gyllideb yn 2020/21. Nodwyd
manylion y cais am godiad cyflog ar gyfer 2020-2021. Mae'n bosib y bydd y rhain
yn effeithio'n sylweddol ar gyllidebau. Ynghylch yr arian wrth gefn a gedwir
gan yr Awdurdod Tân ar hyn o bryd, nodwyd ei fod yn cyfateb ag 1.5% o'r
gyllideb, sydd o dan y 3% a nodwyd fel arfer da gan CIPFA.
Nododd aelodau'r digwyddiadau a'r heriau
gweithredol sy'n wynebu'r Awdurdod Tân. Dywedodd Mr Davies y byddai cylch
gwaith yr Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân yn cael ei ehangu i gynnwys Iechyd a
Lles a byddai swyddogion tân yna'n cysylltu â swyddogion perthnasol o'r
awdurdod os bydd angen.
Nodwyd manylion yr ymatebion i Arolwg Barn y
Cyhoedd, yn benodol y farn bod y gwasanaeth yn darparu gwerth am arian.
Yn dilyn y cyflwyniad uchod, cododd aelodau'r
materion canlynol:-
·
A oedd yr Awdurdod Iechyd wedi
ad-dalu'r Awdurdod Tân am ei waith fel cyd-ymatebwyr. Cadarnhawyd bod cytundeb adfer y gost ar
waith.
·
Gofynnodd yr aelodau a
ddylai'r prydlesau rhad sydd eisoes yn bodoli cael eu disodli gan brydlesi
cyfradd y farchnad? Mewn ymateb,
dywedodd Mr Davies fod y sefyllfaoedd yn cael eu hadolygu'n flynyddol.
·
Gofynnodd aelodau faint o
amser a dreuliwyd fel cyd-ymatebwyr a dywedwyd wrthynt ei fod yn cyfateb i tua
16% o alwadau coch ambiwlansiau, sy'n hydrin.
·
Gofynnodd aelodau ar bad adeg
y byddai Gorsaf Dân Castell-nedd dan fygythiad o gael ei israddio, a dywedwyd
wrthynt fod Gorsafoedd Tân Castell-nedd a Phort Talbot wedi cael eu hasesu
gyda'r bwriad i adeiladu gorsaf dân newydd ym Maglan yn lle'r ddwy orsaf dân,
ond nid yw hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
·
Roedd aelodau'n hapus i glywed
bod yr Awdurdod Tân wedi cynnig lleoedd at ddefnydd cymunedol.
·
Diolchwyd i'r Awdurdod Tân am
ei ymateb i'r llifogydd diweddar yn y Fwrdeistref Sirol.
Ar ôl derbyn diolch gan
y Dirpwy Faer, gadawodd Mr Davies a Mr Greenslade y cyfarfod.