Defnyddir tân gwyllt gan bobl trwy gydol y flwyddyn
i nodi digwyddiadau gwahanol. Er bod rhai pobl yn eu mwynhau, gallant achosi
problemau sylweddol a chodi ofn ar bobl eraill ac anifeiliaid. Gallant ddychryn
llawer o anifeiliaid ac achosi gofid iddynt (gan gynnwys anifeiliaid anwes, da
byw a bywyd gwyllt). Mae'r anifeiliaid yr effeithir arnynt yn dioddef o ofid
seicolegol a gallant anafu eu hunain - weithiau'n ddifrifol iawn - trwy geisio
rhedeg i ffwrdd neu guddio rhag y sŵn.
Mae'r canlynol yn bryderon sylweddol:
·
Gall y synau
anrhagweladwy, swnllyd ac uchel o ran dwysedd y mae llawer o dân gwyllt yn eu
gwneud godi ofn;
·
Gall malurion
tân gwyllt ar y tir beryglu anifeiliaid, megis ceffylau a da byw
·
Gall natur
tymor byr sŵn tân gwyllt ei wneud yn anodd i'r heddlu neu swyddogion yr
awdurdod lleol ddod o hyd i'r lleoliad er mwyn gweithredu
·
Mae angen
cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith perchnogion anifeiliaid o ffobiâu tân gwyllt.
Mae angen ymchwilio ymhellach i ddeall effaith y sŵn
ar anifeiliaid yn iawn a gellir gwneud llawer o bethau i wella'r sefyllfa ar
gyfer anifeiliaid a phobl trwy wneud y canlynol:
·
Cyflwyno cyfyngiad
ar ddefnydd cyhoeddus o dân gwyllt ar ddyddiadau ac amserau penodol;
·
Cynyddu
cyfyngiadau ar werthiant tân gwyllt yn y cyfnod cyn noson tân gwyllt;
·
Lleihau uchafswm
lefelau sŵn tân gwyllt sy'n cael eu gwerthu i'r cyhoedd, gan sicrhau eu
bod yn cael eu labelu'n gywir;
·
Trwyddedu pob
arddangosfa tân gwyllt gyhoeddus - a sicrhau eu bod yn cael eu hysbysebu'n well
i'r cyhoedd.
Mae'r cyngor hwn wedi penderfynu ar y canlynol:
·
mynnu
bod pob arddangosfa tân gwyllt a gynhelir ar dir yr awdurdod lleol ac/neu sy'n
amodol ar ganiatâd gan yr awdurdod lleol yn cael ei hysbysebu ymhell cyn
dyddiad y digwyddiad i alluogi perchnogion i ragofalu am eu hanifeiliaid a
phobl ddiamddiffyn
·
mynd
ati i hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus am effaith tân gwyllt ar les
anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn - gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd
i liniaru risgiau
·
ysgrifennu
at Lywodraeth Cymru i'w hannog i ddefnyddio unrhyw offer sydd ganddi i liniaru
unrhyw effeithiau negyddol ar anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn mewn perthynas
ag arddangosfeydd tân gwyllt
·
ysgrifennu
at Lywodraeth y DU i'w hannog i gyflwyno deddfwriaeth i leihau uchafswm lefelau
sŵn tân gwyllt i 90dB ar gyfer y rheini sy'n cael eu gwerthu i'r cyhoedd
am arddangosfeydd preifat
·
annog
cyflenwyr tân gwyllt lleol i werthu tân gwyllt 'tawelach' ar gyfer
arddangosfeydd cyhoeddus.
Cofnodion:
Derbyniodd Aelodau'r cyngor Hysbysiad o Gynnig dan
Adran 10 o Ran 4 (Rheolau Gweithdrefnau) Cyfansoddiad y Cyngor, ynghylch y
defnydd o dân gwyllt. Cynigiwyd y Cynnig gan y Cynghorydd S Paddison, ei eilio
gan y Cynghorydd Alun Llywelyn, a'i gymeradwyo gan Ddirprwy Arweinydd Grŵp
y Democratiaid Annibynnol.
PENDERFYNWYD: 1. Y
bydd pob arddangosfa tân gwyllt a
gynhelir ar dir yr awdurdod
lleol ac/neu
sy'n
amodol ar ganiatâd gan yr
awdurdod
lleol yn cael ei hysbysebu cyn
dyddiad y digwyddiad i alluogi
perchnogion i ofalu am eu hanifeiliaid a
phobl
ddiamddiffyn;
2. Bydd yr awdurdod yn hyrwyddo
ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus am effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a
phobl ddiamddiffyn - gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru
risgiau;
3. Bydd yr awdurdod yn ysgrifennu at Lywodraeth
Cymru i'w hannog i ddefnyddio unrhyw ddylanwad sydd ganddi i liniaru unrhyw
effeithiau negyddol ar anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn mewn perthynas ag
arddangosfeydd tân gwyllt;
4. Bydd
yr awdurdod yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i'w hannog i gyflwyno deddfwriaeth
i leihau uchafswm lefelau sŵn tân gwyllt i 90dB ar gyfer y rheini sy'n
cael eu gwerthu i'r cyhoedd am arddangosfeydd preifat;
5. Bydd
yr awdurdod yn annog cyflenwyr tân gwyllt lleol i werthu tân gwyllt 'tawelach'
ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus.