Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag
adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972.
Cofnodion:
Gan mai dyma oedd cyfarfod olaf y cyngor byddai
Gareth Nutt yn mynd iddo fel Cyfarwyddwr yr Amgylchedd. Diolchodd Arweinydd y
Cyngor iddo am ei gyfraniad, ei waith a'i ymroddiad i'r awdurdod a dymunodd
ymddeoliad hir, iach a ffyniannus iddo, a chefnogwyd hyn gan y Prif Weithredwr
ac aelodau'r cyngor.