Cofnodion:
Er mawr ofid iddo, dywedodd y Dirprwy Faer wrth y
cyngor bu'r cyn-gynghorwyr Glyn Rawlings, a oedd yn cynrychioli Ward
Glyncorrwg, ac Alan Carter, a oedd yn cynrychioli Ward Cimla farw yn ddiweddar.
Fel arwydd o barch, safodd y cyngor am funud o
dawelwch.
Yna, croesawodd y Dirprwy Faer y Cynghorydd Marcia
Spooner i'w chyfarfod cyntaf gyda'r cyngor wedi iddi gael ei hethol i
gynrychioli Ward Rhos.